"Mae gan fyfyrwyr wybodaeth a dealltwriaeth ragorol o gyfrifiadureg ac yn cyflawni canlyniadau ardderchog ar lefel Uwch" - Arolwg Estyn 2008
Mae'r defnydd helaeth a wneir o gyfrifiaduron yn y cartref a'r gweithle yn ei gwneud hi'n hanfodol i ddisgyblion gael profiad o Dechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) ac yn gallu ei ddefnyddio'n hyderus. Mae’r Adran yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i addysgu’r disgyblion er mwyn cynnal y safonau uchaf posib.
Prif nod yr Adran yw i rhoi cyfle i ddisgyblion ddatblygu eu crebwyll cyfrifiadurol, cyfathrebol a rhesymegol drwy ymwneud yn gyson â chysyniadau’r pwnc. Ceisiwn annog nid yn unig dealltwriaeth Technoleg Gwybodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg, ond chwilfrydedd a mwynhad yn ogystal.
Athrawon Pwnc
- Mr Rhys Hamer
- Mr Dylan Llewelyn
- Mr Osian Griffith
- Mrs Catrin Arnopp
- Mr David Bryant (Technegydd & Rheolwr Systemau Cyfrifiadurol Ysgol Gyfan)
Cyfnod Allweddol 3
Dysgir TGCh i bob disgybl yng Nghyfnod Allweddol 3. Mae’r disgyblion yn atgyfnerthu’r sgiliau a ddysgir yng Nghyfnod Allweddol 2 ac yn ymestyn eu sgiliau a gwybodaeth yn y meysydd Cyfathrebu Gwybodaeth, Trîn Gwybodaeth a Modelu.
Cyfnod Allweddol 4
"Gwna mwyafrif y disgyblion gynnydd da iawn a chyflawnant ganlyniadau rhagorol mewn arholiadau TGAU yn y pwnc." - Arolwg Estyn 2008
Astudir cwrs TGAU CBAC TGCh ym mlynyddoedd 10 ac 11 sy’n parhau i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau cyfrifiadurol gyda phwyslais ar ddefnyddio a chymhwyso Technoleg Gwybodaeth ym mywyd pob dydd. Disgwylir i’r disgyblion greu portffolio o waith sy’n dangos eu sgiliau yn yr un tri testun ac yng Nghyfnod Allweddol 3. Mae’r disgyblion sy'n dilyn y cwrs llawn TGAU yn creu prosiect wedi’i seilio ar fusnes lleol, ac fe ofynnir i’r disgyblion newid system sydd wedi'i sylfaenu ar waith papur i system gyfrifiadurol.
Cyfnod Allweddol 5
Dilynir myfyrwyr Blwyddyn 12 a 13 gwrs CBAC Uwch Gyfrannol/Lefel A Cyfrifiaduro. Astudir pedwar modiwl yn ystod y cwrs Lefel A, gan gynnwys un dasg wedi ei gosod gan CBAC ac un prosiect wedi’i seilio ar fusnes lleol. Yn wahanol i’r cwrs TGAU, disgwylir i ddisgyblion fynd i fwy o ddyfnder gyda’i systemau cyfrifiadureg ac mae’r Adran yn hybu’r disgyblion i rhaglenni eu systemau trwy gyfrwng Visual Basic, er mwyn eu paratoi ar gyfer addysg bellach.
Adnoddau ar y wê
Mae adnoddau addysgu'r adran bellach ar gael 24/7 ar Moodle.