-
Llwybrau Cerdded a Beicio RhCT
Sylwch, er mwyn cyflwyno barn trwy'r ymgynghoriad, rhaid i chi fod yn 13 oed neu'n hŷn. Fodd bynnag, rydyn ni'n croesawu barn unrhyw berson dan 13 oed trwy e-bost i Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Read More -
Hei Bawb Nadolig Llawen YGCR!
Ar ran ein holl gymuned ysgol, yn ddisgyblion a staff - diolch o galon am eich cefnogaeth barhaus yn ystod cyfnod mor ddigynsail. Nadolig Llawen i bawb a Blwyddyn Newydd well i ni gyd.
Read More -
Myfyrdod y Nadolig / Christmas Meditation
Wrth i ni ddod at ddiwedd ein calendr adfent o eitemau rhithiol Nadoligaidd, dyma gyfle i ni fyfyrio ar wir ystyr y Nadolig, yng nghwmni Kira Davies o Fl 13. Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cyfrannu at yr eitemau rhithiol yma eleni. Edrychwn ymlaen yn fawr at
… Read More
- 1
- 2
- 3
- 4
- 5
- 6
- 7
- 8
Croeso
Pleser a braint yw cyflwyno’r wefan hon i chi. Mae’n adlewyrchu popeth sy’n bwysig i ni yma yn Ysgol Gyfun Cwm Rhondda yng nghalon Cwm Rhondda – ein hiaith, ein tir, ein hanes a’n hetifeddiaeth.
Anelwn at sicrhau’r gorau i’n disgyblion, ym mhob agwedd o fywyd ysgol. Mae ein staff brwd, ymroddgar, y filltir ychwanegol, yn gweithio’n ddiflino er mwyn sicrhau bod ein pobl ifanc yn cyrraedd y safonau gorau a fedrant, sy’n eu paratoi ar gyfer addysg gydol oes. Mae pob unigolyn yn bwysig i ni yma’n y Cymer, ac anelwn at ddatblygu pob sgil, medr, a gallu, trwy ddarpariaeth addysgol a chyfleoedd eang a chyffrous sy’n gweddu’r unfed ganrif ar hugain. Mae dwyieithrwydd rhugl ein disgyblion yn destun balchder i ni.
Mae Cymreictod a pharch yn greiddiol i’n bodolaeth yma. Parch at ein hunain, parch at eraill, a’n hamgylchfyd. Parch at ein hiaith, ein gorffennol, a’n diwylliant unigryw. Ymfalchiwn yn ein hunaniaeth a chyrhaeddiadau’n gilydd. Anelwn at greu amgylchfyd gwaraidd sy’n hybu lles a datblygiad pawb yn ein cymuned.
Mae’n partneriaethau’n bwysig i ni. Mae ein partneriaeth agos gyda’r cartref yn allweddol i ni er mwyn sicrhau safonau uchel ym mhob agwedd o waith yr ysgol, a chynhaliaeth ystyrlon ar gyfer ein disgyblion. Mae'r wefan hon yn gam pwysig tuag at sefydlu'r berthynas hanfodol honno.
Dymunwn bob llwyddiant a hapusrwydd i'n disgyblion fel aelodau o deulu’r Cymer.
Miss Sara Elise Jones
Pennaeth Dros Dro
Llythyron Diweddar
Dyddiadau Pwysig
- Diwrnod HMS Llun. 7 Meh, 2021
- Diwrnod HMS Gwe. 25 Meh, 2021
- Diwrnod HMS Llun. 19 Gorff, 2021
- Diwrnod HMS Maw. 20 Gorff, 2021
Dyddiadau'r Tymor
Hydref 2020
1af o Fedi - 23ain o Hydref
2il o Dachwedd - 18fed o Rhagfyr
Gwanwyn 2021
4ydd o Ionawr - 12fed o Chwefror
22ain o Chwefror - 26ain o Fawrth
Haf 2021
12fed o Ebrill - 28ain o Fai
7fed o Fehefin - 20fed o Orffennaf
Manylion Cyswllt
Heol Graigwen
Cymer
Porth
Rhondda Cynon Taf
CF39 9HA
Cymdeithas Rhieni Staff
Dewch i ymuno â ni!
Ry’n ni’n gweithio’n ddiflino i ehangu adnoddau cymuned yr ysgol er lles y disgyblion a phawb. Felly, dewch i ymuno â ni!
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Elaine Howells ar 07824496414
Sefydlwyd Clwb Y Cymer 200 gan CRS Ysgol Gyfun Cwm Rhondda. Tynnir rhif yn fisol. Defnyddir hanner yr arian i dalu am wobrau ac mae gweddill yr arian yn mynd tuag at yr ysgol. Gorau po fwyaf yw'r aelodaeth, gorau po fwyaf yw'r gwobrau!
Er mwyn ymuno, llenwch y ffurflen a'i dychwelyd i'r ysgol os gwelwch yn dda.
Dewch i ymuno / Come and join us!!
Ennillwyr Clwb 2020
Asst: Bob Grady, Medi: Karen Jones, Hydref: Jordan Young, Tachwedd: Julia Roberts
Arian Cinio Arlein
Eye to Eye - Gwasanaeth Cwnsela ar gyfer Pobl Ifanc
Cliciwch yma ar gyfer - "Eye to Eye’s New Covid-19 Response Team"
YEPS
Wicid.tv - Rhestr adnoddau gyrfaoedd i ddisgyblion a rhieni:




